Cwtch

Mae disgyblion Ysgol Bodfeurig ac Ysgol Tregarth wedi gwario 8 diwrnod yn ymarfer sgiliau artistig sydd yn cynnwys: Ysgrifennu cerddi rapiau, creu pypedau, peintio a cherflunio, drymio a dawnsio, Ffilmio a recordio. Gydag ein gilydd rydym wedi llwyddo i sianelu sgiliau creadigol y disgyblion i greu stori ddychmygus am ein cymeriad “ Cwtch”, ble mae’n byw, ei ffrindiau a’i hoff ddiddordebau. 

Beth welwch chi heddiw yw model o sut yr ydym yn gobeithio, gyda rhywfaint o welliannau, bydd Cwtch yn gallu mynd i ysgolion amrywiol yn ehangu ar storiâu, perfformiadau a gweithgareddau addysgiadol eraill. Mae’r prif dîm artistig o Colin Daimond, Ed Holden a Pete Powell gyda chymorth ychwanegol gan y bardd Rhys Trimble, y gwneuthurwraig Enya Koster a’r staff arbennig yn y ddwy ysgol wedi paratoi’r disgyblion ar gyfer y prosiect.

 Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Gyngor y Celfyddydau Cymru gyda’u  cynllun ”Cydweithio Creadigol”. Mae arweinydd y prosiect- Colin Daimond- yn gweithio mewn partneriaeth gyda Learning Links International CIC, sydd wedi  darparu trefniant strwythurol i wneud y prosiect. 

Gweler fideo bach y prosiect a lluniau o prosiect yn Ysgol Bodfeurig

Chwedl:

Disgynnodd yr wy hud o’r nefoedd.

Mae fflach o olau yn dod allan o’r wy.

Mae Cwtch yn cael ei eni.

Mae Cwtch yn deor o’r wy hud efo adenydd.

ond…mae’n disgyn i afon enfys.

Mae dyn doeth yn dod o hyd iddo fo ac yn ei fwydo

Cyn i Cario fo i Ysgol Bodfeurig.

Mae plant Bodfeurig yn rhoi enw “Cwtch” i cwtch.

Efo cariad a cwtchis gan plant Bodfeurig cafodd adenydd mawr.

A tyfodd y draig cry, cyfeillgar, dewr a charedig.

Hedfanodd i’r ynys dychmygus.

Mae’n ymweld â Ysgol Bodfeurig pop blwyddyn ar Fawrth y Ail ar bymtheg.

Chinese lions / Llewod TseiniaiddBlywyddn Newydd Tsieniaidd - Colin and Chinese LionHadenydd Cwtch / wings in Ysgol Bodfeurig

Gweithdai Drymio yng Nghogledd Cymru

Sesiwnau nesa ar gyfer oedolion dyddia Sul 15fed and 22ain mis Mai.

Congas ar gyfer dechreuwyr 11:30am-1:30pm

Samba / Rhythmau Carnifal 2pm- 4pm

Yn TOGY, Treborth ymyl Tafarn y Antelope (LL57 2HZ)

cadw i fyny gyda’r newyddion diweddaraf https://www.facebook.com/projectcubabangor.

Am mwy wybodaeth, bwcio gweithdai neu holi am gwersi cysylltu a:

Colin@capoeiramocambo.co.uk, 07773798199

Conga Workshop

Seckou Keita Gweithdau Drymio, Cyfle Dawnsio

Digwyddiad arbennig iawn a chyfle unigryw i bobl leol gyfarfod a chroesawu Seckou Keita, sy’n feistr o’r radd flaenaf ar y Kora a’r Djembe.

Dydd Sadwrn 9fed Ebrill 2016

Canolfan Gymuned Llanfairfechan, Ffordd y Pentref, Llanfairfechan, Gwynedd, LL33 0AA (gyferbyn â Swyddfa Bost Llanfairfechan)

 Gwahoddiad i Ddrymio! Gweithdy gyda Seckou Keita yn Canolbwyntio ar y Djembe.

Cyfle unigryw i ddysgu rhythmau a rhannu dealltwriaeth gerddorol gyda’r drymiwr carismataidd o Senegal sy’n dod o deulu o gerddorion etifeddol. Mae Seckou yn enwog ac yn boblogaidd am ei fersiynau syfrdanol o gerddoriaeth draddodiadol ac am ei gyweithiau cyfoes ac arloesol gyda cherddorion ledled y byd.

Digwyddiad rhyngweithiol ar gyfer drymwyr ar lefel dechreuwyr a chanolradd.

Dewch â Djembe ac unrhyw offeryn taro Affricanaidd arall gyda chi.

Drysau’n agor am 1.30pm, gweithdy am 2 – 4.30pm 09/04/2016

Cost £35 (£25 os ydych yn bwcio ac yn talu cyn 01/04/2016)

Gwahoddiad i Ddawnsio! Perfformiad personol gyda Seckou Keita.

Cyfle unigryw i ymgolli yng ngherddoriaeth hardd Seckou Keita mewn lle diogel a phwrpasol ar gyfer dawnsio.  Ymestynnwch i lif cerddoriaeth y Kora a’r Drwm, a gadewch i Seckou eich tywys ar daith lle gall eich corff a’ch enaid ymateb i’r gerddoriaeth. Dyma ddigwyddiad personol lle gall pobl sydd wrth eu boddau’n dawnsio gymryd rhan.  Gwisgwch ddillad llac a dewch â dŵr a blanced.

Drysau’n agor am 7.30pm, gyda dawnsio o 8.15 – 9.45pm 09/04/2016

Cost £25 (£15 os ydych yn bwcio ac yn talu cyn 01/04/2016)

Y gost am y ddwy sesiwn:  £60 (£40 os ydych yn bwcio ac yn talu cyn 01/04/2016)

Mae llefydd yn brin felly archebwch eich lle yn gynnar: Ffurflen gofrestru (saesnag)

Os oes gennych ymholiadau neu os ydych eisiau cadw lle, cysylltwch â:

E-bost:  jennie@carrregyfedwen.wales

Trefnir y digwyddiad gan CarregYFedwen Cyf ar y cyd â Colin Daimond (Capoeira Mocambo) a Rosalind Daws (Chakradance)

Prosiect Ciwba

Ymddiheuriadu, mae fersiwn cymraeg ar y ffordd yn dilyn problemau technegol efo’r wefan.

Colin runs short courses of intensive but accessible Workshops focussing on the instruments and music of Cuba. The pilot ran with funding from Gwynedd Council in Spring 2013, there have been two subsequent series’ of workshops.Email: colin@capoeiramocambo.co.uk for upto date information on the forthcoming course. 0001Hx