Blwyddyn Newydd Tsieineaidd – Gorymdaith y Ddwy Ddraig

Weler  fideo y Gorymdaeth y ddreigiau yma: Colin Daimond Dreigiau

Bydd Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn dathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ddydd Sadwrn 13 Chwefror gyda Gorymdaith syfrdanol y Ddwy Ddraig drwy ganol Bangor; wedi ei chreu, ei pherfformio a’i phypedu gan blant Ysgol Hirael.

Cyfarwyddwr Artistig: Colin Daimond
Prif Bypedwr: Peter Powell
Dawnsiwr (y Perl): Yuan Liu

Mewn addasiad o chwedl Tsieineaidd bydd dwy ddraig (un Gymreig ac un Tsieineaidd) yn ymdroelli’u ffordd drwy strydoedd Bangor i sŵn drymiau, ar drywydd perl coll a sgubwyd i ffwrdd mewn storm. Mae’r project wedi bod yn datblygu dros sawl wythnos gyda gweithdai symudiadau, cerddoriaeth a chrefftau’n cael eu cynnal yn Ysgol Hirael drwy gydol Ionawr. chinese_new_year_2016_poster_500Colin Daimond gweithdy Ysgolion - Boomwhackers

 

 

 

 

 

 

“Rydym wrth ein bodd  o fod yn gweithio gyda Sefydliad Confucius ar y project hwn…Mae’r dreigiau Tsieineaidd a Chymreig yn dawnsio gyda’i gilydd yn symbol cryf o gyfnewid diwylliannol ac rydym yn falch iawn fod Ysgol Hirael yn cael cynrychioli Bangor mewn digwyddiad mor bwysig.” meddai Miss Valmai Davies, Pennaeth Ysgol Hirael.

Bydd yr orymdaith yn gadael Ysgol Hirael ar Lôn y Gogarth am 11.15am ac yn gwneud ei ffordd drwy ganol y ddinas drwy Ffordd Glynne a’r Stryd Fawr, gan orffen ger Cloc Bangor am 12pm er mwyn cyfarfod Maer y Ddinas, y Cynghorydd Evelyn Butler ar gyfer diweddglo arbennig.

Digwyddiad Facebook ar y linc yma

Mae rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau Sefydliad Confucius i’w gweld ar: www.bangor.ac.uk/confucius-institute.

 

 

Capoeira Mocambo

Batizado Capoeira Mocambo 2011

Mae Capoeira Mocambo yn ymroddedig i ddysgu a datblygu Capoeira traddodiadol yng Ngogledd Cymru. Rydym hefyd yn perfformio  ymdoddiad o wahanol ffurfiau o gelfyddyd  sydd yn hyrwyddo  ffurfiau eraill o gelfyddyd gyfoes ble mae Capoeira dal yn ddylanwadol. Mae Centro Cultural de Capoeira Mocambo yn gysylltiedig gyda “Associaςão de Capoeira Senzala Santos”, ysgol  yr uchel ei barch, Brif Feistr Mestre Sombra yn Santos, São Paulo State, Brazil. www.capoeiramocambo.co.uk