Weler fideo y Gorymdaeth y ddreigiau yma: Colin Daimond Dreigiau
Bydd Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn dathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ddydd Sadwrn 13 Chwefror gyda Gorymdaith syfrdanol y Ddwy Ddraig drwy ganol Bangor; wedi ei chreu, ei pherfformio a’i phypedu gan blant Ysgol Hirael.
Cyfarwyddwr Artistig: Colin Daimond
Prif Bypedwr: Peter Powell
Dawnsiwr (y Perl): Yuan Liu
Mewn addasiad o chwedl Tsieineaidd bydd dwy ddraig (un Gymreig ac un Tsieineaidd) yn ymdroelli’u ffordd drwy strydoedd Bangor i sŵn drymiau, ar drywydd perl coll a sgubwyd i ffwrdd mewn storm. Mae’r project wedi bod yn datblygu dros sawl wythnos gyda gweithdai symudiadau, cerddoriaeth a chrefftau’n cael eu cynnal yn Ysgol Hirael drwy gydol Ionawr.
“Rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio gyda Sefydliad Confucius ar y project hwn…Mae’r dreigiau Tsieineaidd a Chymreig yn dawnsio gyda’i gilydd yn symbol cryf o gyfnewid diwylliannol ac rydym yn falch iawn fod Ysgol Hirael yn cael cynrychioli Bangor mewn digwyddiad mor bwysig.” meddai Miss Valmai Davies, Pennaeth Ysgol Hirael.
Bydd yr orymdaith yn gadael Ysgol Hirael ar Lôn y Gogarth am 11.15am ac yn gwneud ei ffordd drwy ganol y ddinas drwy Ffordd Glynne a’r Stryd Fawr, gan orffen ger Cloc Bangor am 12pm er mwyn cyfarfod Maer y Ddinas, y Cynghorydd Evelyn Butler ar gyfer diweddglo arbennig.
Digwyddiad Facebook ar y linc yma
Mae rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau Sefydliad Confucius i’w gweld ar: www.bangor.ac.uk/confucius-institute.