Grŵp offerynau taro ffynci yw’r grwp Carnifal Bloco Swn. Band sy’n cymysgu dylanwadau cerddoriaeth byd a theimlad hwyliog parti. Cafodd y band ei greu yn Haf 2012 i berfformio fel rhan o berfformiad Theatr Genedlaethol Cymru ‘C’laen Ta’ ac i berfformio ochr yn ochr a choreograffi Colin Daimond ym mherfformiad ‘Crochan a Ffwrnais’ yng Nghastell Harlech. Perfformiadau mewn amryw o garnifals Gogledd Cymru, mewn tafarndai ac yn digwyddiadau chwaraeon.
Mae disgyblion Ysgol Bodfeurig ac Ysgol Tregarth wedi gwario 8 diwrnod yn ymarfer sgiliau artistig sydd yn cynnwys: Ysgrifennu cerddi rapiau, creu pypedau, peintio a cherflunio, drymio a dawnsio, Ffilmio a recordio. Gydag ein gilydd rydym wedi llwyddo i sianelu sgiliau creadigol y disgyblion i greu stori ddychmygus am ein cymeriad “ Cwtch”, ble mae’n byw, ei ffrindiau a’i hoff ddiddordebau.
Beth welwch chi heddiw yw model o sut yr ydym yn gobeithio, gyda rhywfaint o welliannau, bydd Cwtch yn gallu mynd i ysgolion amrywiol yn ehangu ar storiâu, perfformiadau a gweithgareddau addysgiadol eraill. Mae’r prif dîm artistig o Colin Daimond, Ed Holden a Pete Powell gyda chymorth ychwanegol gan y bardd Rhys Trimble, y gwneuthurwraig Enya Koster a’r staff arbennig yn y ddwy ysgol wedi paratoi’r disgyblion ar gyfer y prosiect.
Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Gyngor y Celfyddydau Cymru gyda’u cynllun ”Cydweithio Creadigol”. Mae arweinydd y prosiect- Colin Daimond- yn gweithio mewn partneriaeth gyda Learning Links International CIC, sydd wedi darparu trefniant strwythurol i wneud y prosiect.
Gweler fideo bach y prosiect a lluniau o prosiect yn Ysgol Bodfeurig
Chwedl:
Disgynnodd yr wy hud o’r nefoedd.
Mae fflach o olau yn dod allan o’r wy.
Mae Cwtch yn cael ei eni.
Mae Cwtch yn deor o’r wy hud efo adenydd.
ond…mae’n disgyn i afon enfys.
Mae dyn doeth yn dod o hyd iddo fo ac yn ei fwydo
Cyn i Cario fo i Ysgol Bodfeurig.
Mae plant Bodfeurig yn rhoi enw “Cwtch” i cwtch.
Efo cariad a cwtchis gan plant Bodfeurig cafodd adenydd mawr.
A tyfodd y draig cry, cyfeillgar, dewr a charedig.
Hedfanodd i’r ynys dychmygus.
Mae’n ymweld â Ysgol Bodfeurig pop blwyddyn ar Fawrth y Ail ar bymtheg.
Mae Capoeira Mocambo yn ymroddedig i ddysgu a datblygu Capoeira traddodiadol yng Ngogledd Cymru. Rydym hefyd yn perfformio ymdoddiad o wahanol ffurfiau o gelfyddyd sydd yn hyrwyddo ffurfiau eraill o gelfyddyd gyfoes ble mae Capoeira dal yn ddylanwadol. Mae Centro Cultural de Capoeira Mocambo yn gysylltiedig gyda “Associaςão de Capoeira Senzala Santos”, ysgol yr uchel ei barch, Brif Feistr Mestre Sombra yn Santos, São Paulo State, Brazil. www.capoeiramocambo.co.uk
Datganiad I’r Wasg Mae Colin wedi derbyn cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru i gynnnal prosiect peilot byr i hyrwyddo dawns broffesiynol ar gyfer dynion yn yr ardal. “Datganiad i’r Wasg” /’Press Release’ yw’r perfformiad cyntaf yn dod a gwahanol ffurfiau o symudiad, steil Hip Hop o ddawns a sgiliau artistig. Bydd yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf ar y Doc tu allan i Galeri Caernarfon ar 9 Mehefin 2013. Mae Galeri yn cynnal penwythnos o’r enw ‘INC’ sydd am y ddifyg presennol o Bapur Newydd yn yr Iaith Gymraeg, y dirywiad yn y cyfryngau yn y dref a’r broses o ddatblygiad o brint papur newydd i flogio. Mae’r themau yma yn cael ei archwilio yn y darn UDC gyda teitl dwyieithog.
Perfformwyr:
“Y Gohebwyr” – Triawd band Taro Tepiaduron
Colin Daimond – Offerynnnwr Taro, Capoeirista,vCoreograffydd
Tim Cumine – Cerddor
Steve Murphy – Offerynnwr Taro o Affrica
“Y Cymeriadau” – Dawnswyr
Ben Brodie – Dawns Stryd
Wren Ball – B’boy a Parkour,
John Booth – Myfyriwr Capoeira , 3ydd Dan Shotokan Karate belt du
Ricardo Critchlow – Waving a Chyfoes
Yn cynnwys sgôr o gerddoriaeth byd wedi ei ysgrifennu a’i recordio gan Colin Daimond a Henry Horrell, Cynhyrchu Ed Holden – www.mrphormula.com