Grŵp offerynau taro ffynci yw’r grwp Carnifal Bloco Swn. Band sy’n cymysgu dylanwadau cerddoriaeth byd a theimlad hwyliog parti. Cafodd y band ei greu yn Haf 2012 i berfformio fel rhan o berfformiad Theatr Genedlaethol Cymru ‘C’laen Ta’ ac i berfformio ochr yn ochr a choreograffi Colin Daimond ym mherfformiad ‘Crochan a Ffwrnais’ yng Nghastell Harlech. Perfformiadau mewn amryw o garnifals Gogledd Cymru, mewn tafarndai ac yn digwyddiadau chwaraeon.
Mae disgyblion Ysgol Bodfeurig ac Ysgol Tregarth wedi gwario 8 diwrnod yn ymarfer sgiliau artistig sydd yn cynnwys: Ysgrifennu cerddi rapiau, creu pypedau, peintio a cherflunio, drymio a dawnsio, Ffilmio a recordio. Gydag ein gilydd rydym wedi llwyddo i sianelu sgiliau creadigol y disgyblion i greu stori ddychmygus am ein cymeriad “ Cwtch”, ble mae’n byw, ei ffrindiau a’i hoff ddiddordebau.
Beth welwch chi heddiw yw model o sut yr ydym yn gobeithio, gyda rhywfaint o welliannau, bydd Cwtch yn gallu mynd i ysgolion amrywiol yn ehangu ar storiâu, perfformiadau a gweithgareddau addysgiadol eraill. Mae’r prif dîm artistig o Colin Daimond, Ed Holden a Pete Powell gyda chymorth ychwanegol gan y bardd Rhys Trimble, y gwneuthurwraig Enya Koster a’r staff arbennig yn y ddwy ysgol wedi paratoi’r disgyblion ar gyfer y prosiect.
Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Gyngor y Celfyddydau Cymru gyda’u cynllun ”Cydweithio Creadigol”. Mae arweinydd y prosiect- Colin Daimond- yn gweithio mewn partneriaeth gyda Learning Links International CIC, sydd wedi darparu trefniant strwythurol i wneud y prosiect.
Gweler fideo bach y prosiect a lluniau o prosiect yn Ysgol Bodfeurig
Chwedl:
Disgynnodd yr wy hud o’r nefoedd.
Mae fflach o olau yn dod allan o’r wy.
Mae Cwtch yn cael ei eni.
Mae Cwtch yn deor o’r wy hud efo adenydd.
ond…mae’n disgyn i afon enfys.
Mae dyn doeth yn dod o hyd iddo fo ac yn ei fwydo
Cyn i Cario fo i Ysgol Bodfeurig.
Mae plant Bodfeurig yn rhoi enw “Cwtch” i cwtch.
Efo cariad a cwtchis gan plant Bodfeurig cafodd adenydd mawr.
A tyfodd y draig cry, cyfeillgar, dewr a charedig.
Hedfanodd i’r ynys dychmygus.
Mae’n ymweld â Ysgol Bodfeurig pop blwyddyn ar Fawrth y Ail ar bymtheg.
O gofio bydd y Gemau Olympaidd yn Rio yn yr haf, beth am greu cyffro heb ei ail gydag ychydig o Samba â naws Rio?
Dwi’n arwain “Bloco Sŵn,” band carnifal o Ogledd Cymru. Mae gen i brofiad helaeth o ddarparu gweithdai Samba dros 20 mlynedd a mwy. Gwiriad DBS.
Darperir pob offeryn ar gyfer grwpiau o hyd at 40. Gellid teilwra’r gweithdai ar gyfer pob grŵp oedran ac mae modd cynnwys perfformiad i’w rannu ar ddiwedd y dydd.
Gallwn ddarparu ar gyfer grwpiau mwy gyda chymhorthydd.
Bydd Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn dathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ddydd Sadwrn 13 Chwefror gyda Gorymdaith syfrdanol y Ddwy Ddraig drwy ganol Bangor; wedi ei chreu, ei pherfformio a’i phypedu gan blant Ysgol Hirael.
Cyfarwyddwr Artistig: Colin Daimond
Prif Bypedwr: Peter Powell
Dawnsiwr (y Perl): Yuan Liu
Mewn addasiad o chwedl Tsieineaidd bydd dwy ddraig (un Gymreig ac un Tsieineaidd) yn ymdroelli’u ffordd drwy strydoedd Bangor i sŵn drymiau, ar drywydd perl coll a sgubwyd i ffwrdd mewn storm. Mae’r project wedi bod yn datblygu dros sawl wythnos gyda gweithdai symudiadau, cerddoriaeth a chrefftau’n cael eu cynnal yn Ysgol Hirael drwy gydol Ionawr.
“Rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio gyda Sefydliad Confucius ar y project hwn…Mae’r dreigiau Tsieineaidd a Chymreig yn dawnsio gyda’i gilydd yn symbol cryf o gyfnewid diwylliannol ac rydym yn falch iawn fod Ysgol Hirael yn cael cynrychioli Bangor mewn digwyddiad mor bwysig.” meddai Miss Valmai Davies, Pennaeth Ysgol Hirael.
Bydd yr orymdaith yn gadael Ysgol Hirael ar Lôn y Gogarth am 11.15am ac yn gwneud ei ffordd drwy ganol y ddinas drwy Ffordd Glynne a’r Stryd Fawr, gan orffen ger Cloc Bangor am 12pm er mwyn cyfarfod Maer y Ddinas, y Cynghorydd Evelyn Butler ar gyfer diweddglo arbennig.