Digwyddiad arbennig iawn a chyfle unigryw i bobl leol gyfarfod a chroesawu Seckou Keita, sy’n feistr o’r radd flaenaf ar y Kora a’r Djembe.
Dydd Sadwrn 9fed Ebrill 2016
Canolfan Gymuned Llanfairfechan, Ffordd y Pentref, Llanfairfechan, Gwynedd, LL33 0AA (gyferbyn â Swyddfa Bost Llanfairfechan)
Gwahoddiad i Ddrymio! Gweithdy gyda Seckou Keita yn Canolbwyntio ar y Djembe.
Cyfle unigryw i ddysgu rhythmau a rhannu dealltwriaeth gerddorol gyda’r drymiwr carismataidd o Senegal sy’n dod o deulu o gerddorion etifeddol. Mae Seckou yn enwog ac yn boblogaidd am ei fersiynau syfrdanol o gerddoriaeth draddodiadol ac am ei gyweithiau cyfoes ac arloesol gyda cherddorion ledled y byd.
Digwyddiad rhyngweithiol ar gyfer drymwyr ar lefel dechreuwyr a chanolradd.
Dewch â Djembe ac unrhyw offeryn taro Affricanaidd arall gyda chi.
Drysau’n agor am 1.30pm, gweithdy am 2 – 4.30pm 09/04/2016
Cost £35 (£25 os ydych yn bwcio ac yn talu cyn 01/04/2016)
Gwahoddiad i Ddawnsio! Perfformiad personol gyda Seckou Keita.
Cyfle unigryw i ymgolli yng ngherddoriaeth hardd Seckou Keita mewn lle diogel a phwrpasol ar gyfer dawnsio. Ymestynnwch i lif cerddoriaeth y Kora a’r Drwm, a gadewch i Seckou eich tywys ar daith lle gall eich corff a’ch enaid ymateb i’r gerddoriaeth. Dyma ddigwyddiad personol lle gall pobl sydd wrth eu boddau’n dawnsio gymryd rhan. Gwisgwch ddillad llac a dewch â dŵr a blanced.
Drysau’n agor am 7.30pm, gyda dawnsio o 8.15 – 9.45pm 09/04/2016
Cost £25 (£15 os ydych yn bwcio ac yn talu cyn 01/04/2016)
Y gost am y ddwy sesiwn: £60 (£40 os ydych yn bwcio ac yn talu cyn 01/04/2016)
Mae llefydd yn brin felly archebwch eich lle yn gynnar: Ffurflen gofrestru (saesnag)
Os oes gennych ymholiadau neu os ydych eisiau cadw lle, cysylltwch â:
E-bost: jennie@carrregyfedwen.wales
Trefnir y digwyddiad gan CarregYFedwen Cyf ar y cyd â Colin Daimond (Capoeira Mocambo) a Rosalind Daws (Chakradance)