Cwtch

Mae disgyblion Ysgol Bodfeurig ac Ysgol Tregarth wedi gwario 8 diwrnod yn ymarfer sgiliau artistig sydd yn cynnwys: Ysgrifennu cerddi rapiau, creu pypedau, peintio a cherflunio, drymio a dawnsio, Ffilmio a recordio. Gydag ein gilydd rydym wedi llwyddo i sianelu sgiliau creadigol y disgyblion i greu stori ddychmygus am ein cymeriad “ Cwtch”, ble mae’n byw, ei ffrindiau a’i hoff ddiddordebau. 

Beth welwch chi heddiw yw model o sut yr ydym yn gobeithio, gyda rhywfaint o welliannau, bydd Cwtch yn gallu mynd i ysgolion amrywiol yn ehangu ar storiâu, perfformiadau a gweithgareddau addysgiadol eraill. Mae’r prif dîm artistig o Colin Daimond, Ed Holden a Pete Powell gyda chymorth ychwanegol gan y bardd Rhys Trimble, y gwneuthurwraig Enya Koster a’r staff arbennig yn y ddwy ysgol wedi paratoi’r disgyblion ar gyfer y prosiect.

 Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Gyngor y Celfyddydau Cymru gyda’u  cynllun ”Cydweithio Creadigol”. Mae arweinydd y prosiect- Colin Daimond- yn gweithio mewn partneriaeth gyda Learning Links International CIC, sydd wedi  darparu trefniant strwythurol i wneud y prosiect. 

Gweler fideo bach y prosiect a lluniau o prosiect yn Ysgol Bodfeurig

Chwedl:

Disgynnodd yr wy hud o’r nefoedd.

Mae fflach o olau yn dod allan o’r wy.

Mae Cwtch yn cael ei eni.

Mae Cwtch yn deor o’r wy hud efo adenydd.

ond…mae’n disgyn i afon enfys.

Mae dyn doeth yn dod o hyd iddo fo ac yn ei fwydo

Cyn i Cario fo i Ysgol Bodfeurig.

Mae plant Bodfeurig yn rhoi enw “Cwtch” i cwtch.

Efo cariad a cwtchis gan plant Bodfeurig cafodd adenydd mawr.

A tyfodd y draig cry, cyfeillgar, dewr a charedig.

Hedfanodd i’r ynys dychmygus.

Mae’n ymweld â Ysgol Bodfeurig pop blwyddyn ar Fawrth y Ail ar bymtheg.

Chinese lions / Llewod TseiniaiddBlywyddn Newydd Tsieniaidd - Colin and Chinese LionHadenydd Cwtch / wings in Ysgol Bodfeurig

Urban Dance Collage

urbandancecollage-pressrelease Datganiad I’r Wasg Mae Colin wedi derbyn cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru i gynnnal prosiect peilot byr i hyrwyddo dawns broffesiynol ar gyfer dynion yn yr ardal.  “Datganiad i’r Wasg” /’Press Release’ yw’r perfformiad cyntaf yn dod a gwahanol ffurfiau o symudiad,  steil Hip Hop o ddawns a sgiliau artistig. Bydd yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf ar y Doc tu allan i Galeri Caernarfon ar  9 Mehefin 2013. Mae Galeri yn cynnal penwythnos o’r enw ‘INC’ sydd am y ddifyg presennol o Bapur Newydd yn yr Iaith Gymraeg, y dirywiad yn y cyfryngau yn y dref a’r broses o ddatblygiad  o brint papur newydd i flogio. Mae’r themau yma yn cael ei archwilio yn y darn UDC gyda teitl dwyieithog.

Perfformwyr:

“Y Gohebwyr” –  Triawd band Taro Tepiaduron

  • Colin Daimond – Offerynnnwr Taro, Capoeirista,vCoreograffydd
  • Tim Cumine – Cerddor
  • Steve Murphy – Offerynnwr Taro o Affrica

“Y Cymeriadau”  – Dawnswyr

  • Ben Brodie – Dawns Stryd
  • Wren Ball – B’boy a Parkour,
  • John Booth – Myfyriwr Capoeira , 3ydd Dan Shotokan Karate belt du
  • Ricardo Critchlow – Waving  a Chyfoes

Yn cynnwys sgôr o gerddoriaeth byd wedi ei ysgrifennu a’i recordio gan Colin Daimond a Henry Horrell,  Cynhyrchu  Ed Holden – www.mrphormula.com