Cwtch

Mae disgyblion Ysgol Bodfeurig ac Ysgol Tregarth wedi gwario 8 diwrnod yn ymarfer sgiliau artistig sydd yn cynnwys: Ysgrifennu cerddi rapiau, creu pypedau, peintio a cherflunio, drymio a dawnsio, Ffilmio a recordio. Gydag ein gilydd rydym wedi llwyddo i sianelu sgiliau creadigol y disgyblion i greu stori ddychmygus am ein cymeriad “ Cwtch”, ble mae’n byw, ei ffrindiau a’i hoff ddiddordebau. 

Beth welwch chi heddiw yw model o sut yr ydym yn gobeithio, gyda rhywfaint o welliannau, bydd Cwtch yn gallu mynd i ysgolion amrywiol yn ehangu ar storiâu, perfformiadau a gweithgareddau addysgiadol eraill. Mae’r prif dîm artistig o Colin Daimond, Ed Holden a Pete Powell gyda chymorth ychwanegol gan y bardd Rhys Trimble, y gwneuthurwraig Enya Koster a’r staff arbennig yn y ddwy ysgol wedi paratoi’r disgyblion ar gyfer y prosiect.

 Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Gyngor y Celfyddydau Cymru gyda’u  cynllun ”Cydweithio Creadigol”. Mae arweinydd y prosiect- Colin Daimond- yn gweithio mewn partneriaeth gyda Learning Links International CIC, sydd wedi  darparu trefniant strwythurol i wneud y prosiect. 

Gweler fideo bach y prosiect a lluniau o prosiect yn Ysgol Bodfeurig

Chwedl:

Disgynnodd yr wy hud o’r nefoedd.

Mae fflach o olau yn dod allan o’r wy.

Mae Cwtch yn cael ei eni.

Mae Cwtch yn deor o’r wy hud efo adenydd.

ond…mae’n disgyn i afon enfys.

Mae dyn doeth yn dod o hyd iddo fo ac yn ei fwydo

Cyn i Cario fo i Ysgol Bodfeurig.

Mae plant Bodfeurig yn rhoi enw “Cwtch” i cwtch.

Efo cariad a cwtchis gan plant Bodfeurig cafodd adenydd mawr.

A tyfodd y draig cry, cyfeillgar, dewr a charedig.

Hedfanodd i’r ynys dychmygus.

Mae’n ymweld â Ysgol Bodfeurig pop blwyddyn ar Fawrth y Ail ar bymtheg.

Chinese lions / Llewod TseiniaiddBlywyddn Newydd Tsieniaidd - Colin and Chinese LionHadenydd Cwtch / wings in Ysgol Bodfeurig

Seckou Keita Gweithdau Drymio, Cyfle Dawnsio

Digwyddiad arbennig iawn a chyfle unigryw i bobl leol gyfarfod a chroesawu Seckou Keita, sy’n feistr o’r radd flaenaf ar y Kora a’r Djembe.

Dydd Sadwrn 9fed Ebrill 2016

Canolfan Gymuned Llanfairfechan, Ffordd y Pentref, Llanfairfechan, Gwynedd, LL33 0AA (gyferbyn â Swyddfa Bost Llanfairfechan)

 Gwahoddiad i Ddrymio! Gweithdy gyda Seckou Keita yn Canolbwyntio ar y Djembe.

Cyfle unigryw i ddysgu rhythmau a rhannu dealltwriaeth gerddorol gyda’r drymiwr carismataidd o Senegal sy’n dod o deulu o gerddorion etifeddol. Mae Seckou yn enwog ac yn boblogaidd am ei fersiynau syfrdanol o gerddoriaeth draddodiadol ac am ei gyweithiau cyfoes ac arloesol gyda cherddorion ledled y byd.

Digwyddiad rhyngweithiol ar gyfer drymwyr ar lefel dechreuwyr a chanolradd.

Dewch â Djembe ac unrhyw offeryn taro Affricanaidd arall gyda chi.

Drysau’n agor am 1.30pm, gweithdy am 2 – 4.30pm 09/04/2016

Cost £35 (£25 os ydych yn bwcio ac yn talu cyn 01/04/2016)

Gwahoddiad i Ddawnsio! Perfformiad personol gyda Seckou Keita.

Cyfle unigryw i ymgolli yng ngherddoriaeth hardd Seckou Keita mewn lle diogel a phwrpasol ar gyfer dawnsio.  Ymestynnwch i lif cerddoriaeth y Kora a’r Drwm, a gadewch i Seckou eich tywys ar daith lle gall eich corff a’ch enaid ymateb i’r gerddoriaeth. Dyma ddigwyddiad personol lle gall pobl sydd wrth eu boddau’n dawnsio gymryd rhan.  Gwisgwch ddillad llac a dewch â dŵr a blanced.

Drysau’n agor am 7.30pm, gyda dawnsio o 8.15 – 9.45pm 09/04/2016

Cost £25 (£15 os ydych yn bwcio ac yn talu cyn 01/04/2016)

Y gost am y ddwy sesiwn:  £60 (£40 os ydych yn bwcio ac yn talu cyn 01/04/2016)

Mae llefydd yn brin felly archebwch eich lle yn gynnar: Ffurflen gofrestru (saesnag)

Os oes gennych ymholiadau neu os ydych eisiau cadw lle, cysylltwch â:

E-bost:  jennie@carrregyfedwen.wales

Trefnir y digwyddiad gan CarregYFedwen Cyf ar y cyd â Colin Daimond (Capoeira Mocambo) a Rosalind Daws (Chakradance)